Richard Thomas MRTPI Ymgynghorydd Cynllunio Tref Siartredig wedi ei leoli ym
Mhenrhyndeudraeth (yn ymyl Porthmadog), Gogledd Cymru. Mae ef wedi bod
yn Gynllunydd Tref Siartredig ers 1992 ac wedi datblygu profiad eang
o’r gyfundrefn gynllunio. Mae Richard ar hyn o bryd yn gweithio i
Gyngor Gwynedd ac wedi ymgymryd gyda gwaith cynllunio sector breifat
rhan amser.
Cynigia wasanaeth ar amrywiaeth
eang o faterion cynllunio. Mae’n ymrwymedig i gynnig gwasanaeth
cynllunio proffesiynol, diduedd, effeithlon a phersonol. Gall y
gwasanaeth yma cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg. Mae’r
gwasanaethau y gellir eu cynnig yn cynnwys:
Ymgynghoriadau cyffredinol ar faterion cynllunio trefol
Ceisiadau cynllunio (yn cynnwys Gwerthusiad Polisi, Datganiadau Dylunio a Mynediad)
Apeliadau Cynllunio
Rhybuddion Gorfodaeth
Tystysgrifau Defnydd Cyfreithlon
Cynrychiolaeth Cynllun Datblygu Lleol
Adeiladau Rhestredig & Ardaloedd Cadwraeth
Ymgynhoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Mae Richard G Thomas MRTPI wedi ei gomisiynu gan Howarth Timber Group Ltd. i ymgymryd â ymgynghoriad cyn ymgeisio mewn perthynas a’r datblygiad arfaethedig amlinellir uchod yn Springfields Building Supplies Ltd, Ffordd Gaer, Brychdyn, Sir Y Fflint, CH4 0DH.
Rhoddir rhybudd bod Howarth Timber Group Ltd. yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer y dymchwel arfaethedig o warws presennol ac estyniad newydd i ffurfio cownter masnach a warws mwy yngyd a thriniaeth terfyn newydd.
Cyn ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016, bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.